Daeth i’r amlwg heddiw fod llywodraeth Prydain wedi cytuno ddwy flynedd yn ôl i beidio ag eithrio bomiwr Lockerbie o gytundeb trosglwyddo carcharorion rhwng Prydain a Libya.
Roedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ar y pryd, Jack Straw, wedi penderfynu peidio â pharhau bwyso am eithrio Abdelbaset Ail Mohamed al-Megrahi o gytundeb o’r fath, er budd hwyluso “trafodaethau ehangach” rhwng y ddwy wlad.
Mae hyn yn cael ei gadarnhau mewn llythyrau a anfonodd Mr Straw at Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, Kenny MacAskill, ac sydd wedi eu cyhoeddi yn y Sunday Times heddiw.
Er nad fel rhan o gytundeb rhyddhau carcharorion y cafodd Megrahi ei ryddhau, mae cyhoeddi’r llythyrau’n debyg o arwain at ragor o gwestiynau am safbwynt llywodraeth Prydain ar ddychweliad Megrahi i Libya yn gynharach y mis yma.
Cytundeb chwilio am olew
Yn y llythyrau, mae Mr Straw yn cydnabod iddo geisio eithrio Megrahi o unrhyw gytundeb ond iddo fethu. Ar yr adeg yr ildiodd Mr Straw, roedd trafodaethau allweddol yn mynd ymlaen ynghylch cytundeb i BP chwilio am olew yn Libya.
Yn un o’i lythyrau, dywed Mr Straw:
“Roedd i yn y gorffennol wedi derbyn pwysigrwydd pwnc al-Megrahi i’r Alban a dywedais y byddwn yn ceisio ei eithrio o’r cytundeb.
“Nid wyf wedi gallu sicrhau eithriad pendant.
“Mae’r trafodaethau ehangach yn cyrraedd cyfnod allweddol, ac yn wyneb buddiannau llethol y Deyrnas Unedig, rwyf wedi cytuno y dylai’r cytundeb trosglwyddo carcharorion yn yr achos hwn fod yn y ffurf safonol ac na ddylai grybwyll unrhyw unigolyn.”
Dywed Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban, fod ei lywodraeth ef wedi gwrthwynebu’r cytundeb rhyddhau carcharorion, ac mae’n pwysleisio nad y cytundeb oedd y sail dros ryddhau al-Megrahi.
Dywedodd Frank Duggan, llywydd grŵp teuluoedd dioddefwyr y trychineb fod yr hyn a ddatgelwyd yn y llythyrau Mr Straw yn “frawychus”.
“Os oes yna gysylltiad uniongyrchol gyda masnach, yn enwedig olew, yna mae’r cysylltiad gyda Phrydain ac nid gyda’r Alban, a dw i’n credu bod gan y Brits gwestiynau i’w hateb.”