Mae chwaraewraig rygbi’n gwella o’i hanafiadau wedi i beiriant rholio lawnt fynd dros y babell yr oedd hi’n cysgu ynddi.
Cafodd Emma Winch, 26 oed, anafiadau i’w phen pan gafodd ei tharo gan y peiriant rholio ar dir clwb rygbi Aberaeron yn oriau mân bore Sadwrn.
Roedd hi i fod i gymryd rhan mewn twrnament rygbi saith-bob-ochr yno ddoe.
Aed â hi i’r ysbyty yn Aberystwyth gydag anafiadau i’w phen, ond cafodd ei throsglwyddo’n ddiweddarach i ysbyty Treforys, Abertawe.
Cafodd 21 o ddynion eu harestio ynglŷn â’r digwyddiad. Dynion o ardal Merthyr oedd pob un ohonyn nhw, ac fe gawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu’n ddiweddarach.