Methodd Caerdydd â pharhau efo’i record ddiguro yn y Bencampwriaeth heddiw, ar ôl iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn Doncaster, 2-0.
Sgoriodd Doncaster dwywaith o fewn pedwar munud yn gynnar yn yr hanner cyntaf, a nhw oedd y tîm cryfaf, er i Kelvin Etuhu a Michael Chopra ddod yn agos i sgorio yn yr ail hanner.
Pwynt i Abertawe
Llwyddodd Abertawe i achub pwynt yn Stadiwm Liberty, wrth gael gêm gyfartal, 1-1, yn erbyn Watford.
Ond dim ond yn y funud olaf y llwyddodd y capten Alan Tate i ddarganfod cefn y rhwyd, i sicrhau’r pwynt.
Roedd hi’n gêm agos, a dim ond ar ôl tua 65 munud o chwarae y llwyddodd Danny Graham i gael gôl i’r ymwelwyr, pan wnaeth gicio’r bêl drwy goesau gôl-geidwad Abertawe.
Wrecsam yn ennill
Llwyddodd Wrecsam i ennill ei buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers dechrau’r tymor, wrth guro Forest Green 0-2.
Sgoriodd Wes Baynes ddwy gôl drawiadol o fewn tair munud i’w gilydd, ac er i Forest Green gael eu cyfle, llwyddodd Wrecsam i amddiffyn eu mantais yn weddol gyfforddus.