Mae Morgannwg wedi gorffen yn gyfartal yn erbyn Northampton ar bedwerydd diwrnod eu gêm Pencampwriaeth Sirol.
Methodd Morgannwg ag ennill ei thrydedd gêm o’r bron wrth i’r tîm cartref orffen y diwrnod 312/8 yn eu hail fatiad.
Dechreuodd Northampton yn dda wrth i Stephen Peters fatio 86, ond er i Robert Croft fowlio pedwar allan am 71, doedd hyn ddim yn ddigon i Forgannwg.
Batiodd Rikki Wessels 92 cyn i’r capteiniaid ysgwyd llaw am tua phump o’r gloch.