O flaen cannoedd o alarwyr yn angladd y Seneddwr Edward Kennedy heddiw, talodd yr Arlywydd Barack Obama deyrnged i “ddeddfwr mwyaf ein hoes”.
Ymysg y dorf o 1,500 o wahoddedigion yn y gwasanaeth angladdol yn Boston roedd tri o gyn-arlywyddion America – George W Bush, Bill Clinton a Jimmy Carter.
Bu farw’r Seneddwr Kennedy ddydd Mawrth yn 77 oed ar ôl brwydr hir yn erbyn canser yr ymennydd. Roedd wedi gwasanaethu fel seneddwr dros Massachussetts ers 47 mlynedd, gyrfa wleidyddol nodedig a ymestynnodd o lofruddiaethau ei ddau frawd yn yr 1960au i ethol yr arlywydd du cyntaf yn hanes America y llynedd.
“Er mai’r hyn a gyflawnodd Ted Kennedy y byddwn ni’n ei gofio, ei galon hael fydd yr hyn y byddwn ni’n ei cholli,” meddai Barack Obama.
“Nid oherwydd y bri oedd ynghlwm wrth ei enw neu’i swydd yr ydym yn wylo heddiw.
“Rydym yn wylo oherwydd ein bod ni’n caru’r arwr caredig a thyner a ddyfalbarhaodd trwy boen a thrasiedi – nid er mwyn uchelgais na balchder, nid er mwyn cyfoeth na grym, ond er mwyn y bobl a’r wlad yr oedd yn eu caru.”
Llun: Barack Obama wrth arch y Seneddwr Kennedy yn yr angladd
Ar ôl y seremoni roedd corff y Seneddwr Kennedy yn cael ei hedfan i Washington i’w gladdu ym mynwent Arlington wrth ochr ei ddau frawd John F Kennedy a Robert Kennedy.
Llun: Y Seneddwr Edward Kennedy (Niall Carson/PA Wire)