Wrth ymweld ag Afghanistan heddiw, addawodd y Prif Weinidog fwy o help i amddiffyn milwyr rhag bomiau sy’n cael eu plannu ar ochr ffyrdd gan y Taliban.
Cyhoeddodd Gordon Brown y byddai offer newydd ac arbenigwyr ar ddyfeisiadau ffrwydrol ar y ffordd i’r wlad yn yr hydref.
Roedd yn ymweld â milwyr yng ngwersyll Bastion yn nhalaith Helmand, lle diolchodd iddyn nhw am eu hymdrechion wrth ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau diweddar.
Oriau ynghynt roedd milwr arall o Brydain wedi cael ei ladd. Daeth marwolaeth yr aelod o’r Royal Marines â chyfanswm colledion y fyddin i 208.
Aeth Mr Brown yno gyda Phennaeth y Staff Amddiffyn, y Prif Farsial Awyr Syr Jock Stirrup, a chafodd drafodaethau gydag amryw o uwch swyddogion milwrol gan gynnwys cadlywydd lluoedd America, y Cadfridog Stanley McChrystal.
“Gadewch imi dalu teyrnged i ddewrder, proffesiynoldeb a gwladgarwch ein lluoedd,” meddai Mr Brown heddiw. “Maen nhw’n gwybod pam ein bod ni yma a bod ein diogelwch ni gartref yn dibynnu ar Afghanistan sefydlog – heb ddim Taliban na dim rhan i’w chwarae gan al Qaida.”
Yn yr hydref, bydd 200 ychwanegol o filwyr sy’n arbenigo mewn ymdrin â dyfeisiadau ffrwydrol yn cael eu hanfon i’r wlad. Mae’r 200 a anfonwyd yno’n gynharach eleni eisoes wedi llwyddo i arestio rhai o’r bomwyr a’u cyflenwyr.
Addawodd Mr Brown hefyd y bydd rhagor o gerbydau sy’n gallu gwrthsefyll ffrwydron yn eu cyrraedd yn yr hydref. O’r mis nesaf ymlaen, yn ogystal, fe fydd rhagor o awyrennau di-griw’n cael eu hedfan i geisio targedu a dal y gwneuthurwyr bomiau.
Llun: Y Prif Weinidog yn cael golwg ar un o gerbydau arfog Prydain yng ngwersyll Bastion, Lashkar Gah yn Afghanistan heddiw (Stefan Rousseau/PA Wire)