Bu’n rhaid i bobl ddianc o’u tai mewn tref yn nwyrain Lloegr heddiw ar ôl i dân “anferthol” a gychwynnodd mewn cae ŷd fygwth eu cartrefi.

Roedd tri o deuluoedd yn ddigartref ar ôl i’r tân yn Great Wakering, ger Southend yn Essex ledaenu o’r cae i stad o dai gyfagos.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Essex fod y fflamau wedi dinstrio dau dŷ’n llwyr a difrodi 10 o rai eraill. Aed â dau o bobl i’r ysbyty gyda mân anafiadau.

“Dw i ddim wedi gweithio ar ddigwyddiad fel hwn ers blynyddoedd lawer,” meddai Neil Fenwick o’r gwasanaeth tân.

“Drwy fod y fflamau wedi lledaenu dros ddwy filltir sgwâr o gaeau a chloddiau, roedd y tân allan o reolaeth ar brydiau.

“Roedd rhai teuluoedd wedi cychwyn dianc o’u cartrefi, ond bu’n rhaid inni wacáu’r stad i gyd rhag ofn.”

Bu mwy na 60 o ymladdwyr tân wrthi’n ceisio diffodd y fflamau ac anfonwyd 12 injan dân yno.

Er nad yw achos y tân yn hysbys eto, dywedodd llefarydd ar ran heddlu achos nad yw’n cael ei drin fel tân amheus.

Llun: Ymladdwyr tân wrthi yn Great Wakering ger Southend yn gynharach heddiw (Heddlu Essex/PA Wire)