Rhaid i wledydd cyfoethog y byd arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dyna yw neges yr elusen Cymorth Cristnogol wrth lansio ymgyrch newydd i dynnu sylw at y pwnc.
Neithiwr roedd slogannau fel “Coal Kills” i’w gweld ar orsaf bwer Ironbridge yn Sir Amwythig, i nodi trothwy’r 100 diwrnod sydd i fynd at uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd yn Copenhagen ddiwedd y flwyddyn.
Bydd rhagor o’r hyn y mae’r elusen yn ei alw’n “dresmasu gweledol torfol” ar adeiladau amlwg dros y pedwar mis nesaf.
Meddai Paul Brannen, pennaeth ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol: “Roedd Ironbridge yn darged addas i’n digwyddiad cyntaf o dresmasu gweledol torfol gan mai dyma yw crud y Chwyldro Diwydiannol.
“Mae hi bellach yn amser am chwyldro newydd, chwyldro hinsawdd. Mae’n hanfodol fod cytundeb teg a chyfiawn ar yr hinsawdd yn cael ei wneud yn Copenhagen.”
Mae Cymorth Cristnogol yn galw ar Gordon Brown i fynychu’r uwchgynhadledd i bwyso ar y gwledydd cyfoethocaf i ymrwymo i dorri eu hallyriadau carbon o leiaf 40% erbyn 2020.
Yn ôl yr elusen, ni ddylai unrhyw orsafoedd pŵer glo gael eu codi o’r newydd ym Mhrydain heb fod ganddynt y cyfleusterau i ddal a storio eu hallyriadau carbon.
Llun: ‘Coal Kills’ oedd y neges ar bwerdy glo Ironbridge, Sir Amwythig, neithiwr (Cymorth Cristnogol/PA)