Bydd gwaith yn dechrau’n fuan ar gynllun £5 miliwn i ddatblygu canolfan fwyd a fydd yn creu tua 40 o swyddi yn nyffryn Conwy.
Fe fydd y datblygiad, mewn hen adeiladau fferm gerllaw’r A470, yn cynnwys ysgol fwyd, bwyty a siop fferm yn gwerthu cynnyrch lleol.
Gobaith y datblygwyr, stad Bodnant, yw y bydd canolfan fwyd fferm Ffwrnais, ger Tal-y-cafn, rhwng Cyffordd Llandudno a Llanrwst, yn agor yng ngwanwyn 2011.
Elfen allweddol o’r fenter fydd cyfleusterau prosesu newydd ar gyfer cynhyrchu caws a hufen ia, a’r gobaith fydd datblygu tŷ mwg a chyfleusterau awyrsychu cig yn ogystal yn ddiweddarach.
Fe fydd unedau llai yn cael eu rhentu allan i broseswyr a chynhyrchwyr bychain.
“Ein nod yw i’r ganolfan fod yn llwyfan i gynnyrch o Gonwy a ledled gogledd Cymru,” meddai Stephen Dixon, Rheolwr Stad Bodnant. “Fe fydd cyfleoedd i ffermwyr a thyfwyr, cynhyrchwyr caws, cogyddion a phobyddion i werthu eu cynnyrch – yn wir fe fydd cyfle i unrhyw un sy’n cynhyrchu bwyd neu ddiod yn yr ardal.”
I’r rheini a fydd yn awyddus i wella’u sgiliau coginio, fe fydd cyrsiau diwrnod a phenwythnos yn cael eu cynnal ar y safle, a’r gobaith hefyd fydd croesawu ymweliadau gan ysgolion lleol.
Llun: Adeiladau Fferm Ffwrnais ar ochr yr A470 ger Tal-y-Cafn, lleoliad y ganolfan fwyd