Mae pôl piniwn yn dangos mwyafrif clir o bobl yr Alban yn anghytuno â’r penderfyniad i ryddhau’r gŵr a gafodd ei ddedfrydu am erchylldra Lockerbie.

Roedd 57% o’r rhai a holwyd o’r farn y dylai Abdelbaset Ali Mohmed al Megrahi fod wedi aros yn y carchar hyd nes y byddai wedi marw.

Roedd cymaint ddwywaith o bobl yn credu bod Gweinidog Cyfiawnder yr Alban, Kenny MacAskill, wedi gwneud y penderfyniad anghywir, ag oedd yn credu iddo wneud y peth iawn – 60% o gymharu â 32%.

Roedd 68% hefyd yn credu i Megrahi gael ei ryddhau am resymau heblaw cyflwr ei iechyd. Cafodd 1,005 o oedolion eu holi ddydd Mercher a dydd Iau gan ICM yn y pôl ar gyfer newyddion y BBC.

Yn y cyfamser dywed Magrahi, a oedd wedi treulio wyth mlynedd yn y carchar, ei fod yn benderfynol o glirio’i enw, ac mai’r rheswm y gollyngodd ei apêl yn erbyn y ddedfryd oedd na fyddai’n byw’n ddigon hir i weld y canlyniad.

Cefnogi ymchwiliad cyhoeddus

Dywed Magrahi hefyd ei fod yn cefnogi galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i’r ymosodiad erchyll ar awyren Pan Am ym mis Rhagfyr 1988, pan gafodd 270 o bobl eu lladd.

Gan siarad o’i wely yn ei gartref yn Tripoli, Libya, lle mae wedi bod ers iddo gael ei ryddhau yr wythnos ddiwethaf, meddai Megrahi:

“Dw i’n cefnogi’r alwad am ymchwiliad cyhoeddus os oes modd cytuno ar hynny.

“Yn fy marn i, mae’n annheg ar deuluoedd y dioddefwyr nad oes un wedi bod. Fe fyddai’n help iddyn nhw gael gwybod y gwir. Nid yw’r gwir byth yn marw. Petai Prydain yn ei warantu, byddwn yn gefnogol iawn.”

Cyfeiriodd at Dr Jim Swire, a gollodd ei ferch 23 oed Flora yn y trychineb, sydd wedi bod yn galw’n gyson am ymchwiliad o’r fath:

“Fe fyddwn i eisiau helpu Dr Swire a’r lleill gyda’r dogfennau sydd gennyf,” meddai Megrahi.

Ond ychwanegodd:

“Fy nheimlad i yw y bydd llywodraeth Prydain yn osgoi ymchwiliad cyhoeddus oherwydd fe fyddai’n gur pen iddyn nhw a’r Americanwyr ac fe fyddai’n dangos faint o ran y mae’r Americanwyr wedi ei chwarae ac fe fyddai hefyd yn costio llawer o arian idddyn nhw.”

Llun: Gweddillion awyren Pan Am 103 yn Lockerbie ar ôl yr ymosodiad erchyll ym mis Rhagfyr 1988 (PA)