Dywed byddin Pacistan eu bod wedi dinistrio gwersyll hyfforddi hunan-fomwyr a lladd chwech o wrthryfelwyr Taliban yn ardal gythryblus dyffryn Swat.
Mewn datganiad heddiw, dywed y fyddin fod amryw o’r gwrthryfelwyr wedi cael eu hanafu hefyd wrth i’w hofrenyddion fomio’r gwersyll ar ynys fechan yn afon Swat ger tref Charbagh.
Yn ôl y datganiad, cymerwyd y camau yma yn dilyn adroddiadau gan y gwasanaethau cudd a phobl leol am bresenoldeb pobl a oedd yn cynllwynio ymosodiadau hunanladdiad.
Roedd y bomwyr a oedd yn cael eu hyfforddi yn y gwersyll am gael eu defnyddio yn ninasoedd Swat, meddai’r fyddin.
Mae’r ymosodiad diweddaraf gan fyddin Pacistan yn dilyn tri mis o ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr y Taliban yn nyffryn Swat a’r ardaloedd cyfagos.
Llun: Roedd y frwydr yn erbyn y Taliban yn uchel ar yr agenda mewn trafodaethau rhwng Arlywydd Pacistan, Asif Ali Zardari, a’r Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing ddoe. (Stefan Wermuth/PA Wire)