Bydd un o ffefrynnau mawr Abertawe yn gwisgo’r crys gwyn eto heddiw, ddwy flynedd wedi iddo fe adael y clwb.

Mae’r ymosodwr, Lee Trundle, wedi ail-ymuno ar fenthyg o Bristol City, ac fe fydd yn chwarae yn erbyn Watford y prynhawn ‘ma.

Roedd Trundle yn chwaraewr poblogaidd iawn yn ystod ei gyfnod blaenorol gyda’r clwb, a llwyddodd i sgorio o leia’ 20 gôl bob tymor yn y pedair blynedd y treuliodd gyda’r Elyrch.

Bydd yn cael cwmni ymosodwr arall hefyd, gyda chyn-chwaraewr Celtic, Craig Beattie, yn ymuno o West Brom. Mae’n debyg bod y ffi o gwmpas £400,000.

Mae Beattie yn 25 oed ac wedi chwarae pêl-droed rhyngwladol i’r Alban.

Bydd cefnogwyr yr Elyrch yn gobeithio y bydd e’ a Trundle yn gallu ffurfio partneriaeth lwyddiannus.