Mae marwolaeth Michael Jackson wedi cael ei farnu fel lladdiad – homicide – gan grwner Los Angeles heddiw.

Gallai hyn arwain at gyhuddiadau troseddol yn erbyn rhywun neu rywrai.

O dan gyfraith yr Unol Daleithiau gall homicide gynnwys naill ai lofruddiaeth neu ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustra neu ddihidrwydd.

Yn ôl adran y crwner, bu farw’r Brenin Pop o ganlyniad i wenwyno propofol – cyffur cryf a roddwyd iddo gan ei feddyg personol ychydig oriau ynghynt.

Cafodd y meddyg, Dr Conrad Murray, ei holi gan yr heddlu ddwywaith ers marwolaeth y canwr, ond nid yw wedi cael ei enwi fel rhywun sy’n swyddogol o dan amheuaeth.