Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn pryderu fod cannoedd o ffoaduriaid o Bacistan yn dychwelyd i’w cartrefi mewn ardaloedd lle mae llawer o glinigau ac ysbytai wedi cael eu dinistrio.
Mae oddeutu 1,500 o ffoaduriaid yn dychwelyd i’w cartrefi yng ngogledd-orllewin Pakistan ar ôl ymladd yn yr ardal.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud eu bod angen £21.5miliwn i ddatrys yr argyfwng iechyd ac i sicrhau adfer iechyd pobl yn yr ardal.
Hyd yn hyn, does dim heintiadau epidemig wedi eu hadrodd.
Mae’n debyg fod bron i 80% o ffoaduriaid o Swat a Malakand wedi dychwelyd adref – er gwaetha’r ffaith fod bron i 90% o’r cnwd diwethaf yn Swat wedi’i ddinistrio.