Wrth i filiynau gychwyn ar daith ar drothwy penwythnos gŵyl y banc, mae hi wedi bod yn anhrefn llwyr heddiw ar lawer o ffyrdd.

Mae modurwyr yn cael eu rhybuddio i fod yn ofalus ar ôl i wasanaethau ambiwlans orfod mynychu 16 o ddamweiniau yn ne-orllewin Lloegr yn y ystod y dydd.

Yn ogystal, cafwyd damwain ddifrifol ar yr M58 ger Skelmersdale yn Sir Gaerhirfryn, ac roedd dwy lôn ar yr M62 wedi eu cau ym Manceinion hefyd.

Yn ôl adroddiadau, roedd traffig trwm ar yr holl ffyrdd allan o Lundain, a bu oedi sylweddol ar yr M25 lle’r oedd miloedd yn heidio am faes awyr Gatwick.

Heddiw oedd y dydd prysuraf o ran ymadawiadau awyrennau gyda 420,000 yn hedfan o Heathrow dros y penwythnos a 245,000 yn hedfan o Gatwick.

“Tagfeydd naw milltir”

Daeth traffig i stop heddiw ar yr M5 wedi i ran o’r draffordd rhwng cyffordd 19 yn Portishead a chyffordd 18 yn Avonmouth gau y prynhawn yma.

O ganlyniad, roedd tagfeydd traffig yn ymestyn am naw milltir yr holl ffordd i gyffordd 21 ger Weston Super Mare.