Mae piranha enfawr wedi cael ei ddarganfod mewn afon yn Nyfnaint, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.
Fe wnaeth gweithwyr pysgodfa’r Asiantaeth ganfod y piranha’n farw mewn afon sy’n llifo i Afon Torridge wrth gynnal arolwg o’r mathau pysgod sydd yn yr afon.
Roedd y piranha bolgoch oddeutu 14 modfedd o hyd – mwy na hyd arferol y pysgodyn ar gyfartaledd.
Fe wnaeth archwiliad o’r pysgodyn ddatgelu bod ei stumog yn llawn india corn – sy’n awgrymu mai anifail anwes oedd y pysgodyn.
Yn ôl yr Asiantaeth, mae’n debyg ei fod wedi cael ei roi yn yr afon wedi iddo dyfu’n rhy fawr i’w danc pysgod. Yn ôl pob golwg, fe fu farw am nad oedd yn gallu goddef tymheredd isel y dŵr.
Y piranha yw’r pysgodyn dŵr croyw mwyaf ffyrnig yn y byd ac afon Amazon yw ei gynefin arferol.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud eu bod yn pryderu am gynnydd pysgod egsotig yn nyfroedd Prydain.