Mae hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner wedi enwi wyth chwaraewr rhyngwladol yn ei garfan i wynebu Caerwrangon ar Rodney Parade, heno.
Mae Turner yn gobeithio y bydd yn gyfle i chwaraewyr newydd y rhanbarth ddangos eu doniau o flaen eu cefnogwyr.
Dyma fydd cyfle cyntaf y garfan i chwarae gyda’i gilydd mewn gêm gystadleuol, wedi mis o baratoadau.
Ond fydd Adam Brown, Hoani MacDonald, Rhodri Gomer Davies na Matthew J Watkins ddim ar gael i’r Dreigiau oherwydd anafiadau.
Bydd y Dreigiau yn croesawu eu cyn-brop Adam Black yn ôl wedi iddo adael y rhanbarth am Gaerwrangon.
Mae bachwr y Dreigiau, Tom Willis wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at wynebu Adam Black yn y sgrym.
“Rwy’n methu aros i wynebu Blackie, ac rwy’n falch fod y gêmau a’r tymor newydd yn dechrau unwaith eto,” meddai.
Carfan y Dreigiau
15. Jason Tovey ,14. Aled Brew, 13. Tom Riley, 12. Ashley Smith, 11. Richard Fussell, 10. James Arlidge ,9. Wayne Evans, 1. Phil Price, 2. Tom Willis, 3. Ben Castle, 4. Adam Jones, 5. Luke Charteris, 6. Danny Lydiate, 7. Gavin Thomas, 8. Lewis Evans.
Eilyddion: Steve Jones, Nigel Hall, Ali McKenzie, Rob Sidoli, Grant Webb, James Harris, Alex Walker, Shaun Connor.
Carfan Caerwrangon
15. Chris Latham, 14. Marcel Garvey, 13. Alex Grove, 12. Sammy Tuitupou, 11. Miles Benjamin, 10. Willie Walker, 9. Jonny Arr, 1. Adam Black, 2. Aleki Lutui, 3. Tevita Taumoepeau, 4. Will Bowley, 5. Craig Gillies ,6. Tom Wood, 7. Pat Sanderson, 8. James Rodwell.
Eilyddion: Jack Gilding, Chris Fortey, Oliver Sourgens, Greg Rawlins, James Collins, Matthew Cox, Ryan Powell, George Crook, Michael Penn, Greg King, Rico Gear, Calum Macrae.