Gall dadlau tros bwy sy’n talu am drwsio pont achosi oedi gros agor cymal olaf Rheilffordd Eryri.
Mae penaethiaid y lein yn honni bod ar Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru ddyled o £250,000 iddyn nhw am drwsio pont Croesor ger Porthmadog.
Yn ôl papur newydd y Daily Post, mae’r Asiantaeth yn mynnu mai dim ond rhan o’r arian oedd wedi ei addo – am y rhan o’r bont sy’n cynnal y briffordd.
Dywedodd Rheolwr Rheilffordd Eryri wrth y papur na fyddai’r ddadl yn cael ei datrys tan y flwyddyn nesaf ac efallai na fyddai’r lein gyfan yn agor tan 2011.
“Os caiff y ddadl ei datrys yn ddigon buan, efallai y bydd modd rhedeg gwasanaeth trenau o Borthmadog ddiwedd 2010,” meddai.