Mae dau berson wedi eu cyhuddo dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar ôl i restr aelodaeth y BNP gael ei chyhoeddi ar y We.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y ddau wedi eu harestio mewn ymchwiliad ar y cyd gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Fe fyddan nhw’n ymddangos o flaen Llys Ynadon Nottingham ar Fedi 1.

Galwodd y blaid adain dde eithafol am ymchwiliad fis Tachwedd diwethaf ar ôl i enwau, cyfeiriadau a manylion cysylltu 10,000 o aelodau gael eu cyhoeddi ar y We.

Roedd arweinydd y blaid, Nick Griffin, wedi cwyno wrth ei heddlu lleol, Dyfed Powys, gan ddweud bod cyhoeddi’r rhestr yn erbyn hawliau dynol a chyfreithiau gwarchod data.

Disgrifiodd y cyhoeddiad fel “cam bradwrus gwarthus” gan gyn-aelodau o’r BNP ar ôl iddyn nhw golli eu gwaith.

Roedd y rhestr yn cynnwys aelodau o’r heddlu a’r fyddin.