Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd, sydd newydd ddechrau ar Stad Glanusk yng Nghruchywel, yn addo bod yn fwy llwyddiannus nag erioed.

O gymharu â’r llynedd, pan werthwyd 10,000 o docynnau o fewn deg mis, mae’r un nifer o docynnau eleni wedi gwerthu yn hanner yr amser.

Yn ogystal â hyn mae’r ‘tocyn gwyliau’ newydd – sef estyniad o dridiau i ymwelwyr sy’n dymuno gwersylla ar y stad am wythnos gyfan -wedi profi’n boblogaidd tu hwnt, ac wedi gwerthu’n llwyr mewn dim o dro.

Ymhlith yr enwau mawr ar y prif lwyfan, mae rhai fel Jarvis Cocker tra bod Euros Childs a Cate Le Bon ymhlith perfformwyr Cymraeg, a’r cyn-ddeliwr cyffuriau, Howard Marks, a Tu Chwith yn cyfrannau at y gweithgareddau llên.

Meddai Fiona Stewart, Rheolwr-gyfarwyddwr yr ŵyl, “Yn wyneb y dirwasgiad, dw i’n hyderus fod yr ŵyl yn cynnig gwerth ei harian gyda thridiau o adloniant, lluniaeth a chyfleusterau bendigedig. Mae ychwanegiad y ‘tocyn gwyliau’ wedi ysgogi llawer i archebu ynghynt, a chroesi bysedd y bydd y tywydd ar ein hochr yn dilyn bendith gan dderwyddon!”

Yn ystod y dyddiau ola’ cyn yr ŵyl, fe fu Golwg 360 yn siarad gyda’r rheolwr-gyfarwyddwr Fiona Stewart …

9 i 5

Dw i fyny’n gweithio erbyn 6 y bore ar hyn o bryd. Gyda chynllun y safle wedi penderfynu, dw i’n derbyn diweddariadau cyson gan y rheolwyr am nifer o bethau, yn cynnwys ailgylchu, marchnata, stondinau, stiwardio, gwerthiant tocynnau, diogelwch a pharcio. Fy rôl i ydi goruchwylio’r amserlen ar gyfer yr holl bethau yma, gan ddelio ag unrhyw newidiadau. Mae’n 10 y nos neu’n hwyrach pan wy’n rhoi’r gorau i waith, ac er ei fod yn anodd weithiau, mae’r profiad o weithio ar rywbeth mor ffantastig yn ein cadw i fynd.

Cyfrannu cymunedol

Ni’n amcangyfrif y bydd £300,000 yn mynd syth i mewn i’r economi lleol o’r ŵyl eleni, a hynny ar ben yr hyn fydd yr holl ymwelwyr yn ei wario. Mae mwyafrif y stondinau bwyd yn defnyddio cynnyrch lleol o Gymru, e.e. stondin poblogaidd Ysgol Cwmdu, sy’n gwerthu selsig o gig y stad. Mae’r ‘tocyn gwyliau’ newydd hefyd wedi gwerthu allan, ac felly’n cyflawni’r nod o godi proffil a chynhyrchu incwm i’r ardal.


Popeth yn Gymraeg?

Gŵyl Gymreig yw’r Green Man ac felly mae’n hanfodol iddi gynnwys adloniant a chwmnïau Cymreig. Ar hyn o bryd, mae tua 30% o’r rhaglen wedi’i chyflwyno i artistiaid Cymreig ym myd ffilm, cerddoriaeth, comedi, llenyddiaeth a gwyddoniaeth ac mae hyn yn cynyddu bob blwyddyn. Yn ogystal, mae’r ŵyl yn croesawu artistiaid da o bob cwr o’r byd.

Steddfod ‘secsi’…

Ma yna dipyn o Gymry Cymraeg yn mynychu’r ŵyl, mae yna gerddoriaeth a llenyddiaeth ac mae gyda ni dderwyddon, ond heblaw am hynny, mae’r ddwy ŵyl yn hollol wahanol! Dw i’n credu fod yr Eisteddfod yn ŵyl anhygoel ac eiconig ar ei phen ei hun – yn bersonol, dw i’n meddwl ei fod yn ddigwyddiad reit cŵl. Fodd bynnag, mae rhai yn cyfeirio at Ŵyl y Dyn Gwyrdd fel Gŵyl Gerddoriaeth a Chelf Cyfoes newydd Cymru… sy’n grêt!

Cymru v Lloegr

Dw i’n credu fod yna wahaniaeth yng ngwyliau cyfoes y ddwy wlad. Yn Lloegr, fel arfer cerddoriaeth yw’r flaenoriaeth mewn gŵyl, ac mae ffurfiau celf eraill yn eilradd. Yng ngwyliau Nghymru, dw i’n credu fod yna berthynas llawer mwy naturiol a chyfartal rhwng ffurfiau celf amrywiol, o gerddoriaeth i lenyddiaeth.

Gwyrdd ymhob ystyr

Mae’r amgylchedd wastad wedi bod wrth wraidd yr Ŵyl. Mae gyda ni brosiect ar hyn o bryd i wneud Glanusk mor gynaladwy â phosib, e.e. gosod rhwydaith dŵr er mwyn osgoi cludiant gan danceri. Ni’n rhedeg gwasanaeth bysiau o’r prif ddinasoedd, gwasnaeth gwennol am ddim o’r Fenni ar gyfer teithwyr trên, yn hyrwyddo cynlluniau rhannu ceir ac yn cynnig parcio am i’r rheiny â cheir llawn. Mae cyfleusterau ail-gylchu ar gael ymhobman ac mae’n syndod ar yr ochr dda pa mor lan mae safle Glanusk wedi i’r dorf adael!

Ifan y Glaw…

Yn dilyn sôn am dderwyddon y Steddfod, y flwyddyn hon mae gan Ŵyl y Green Man ei derwyddon ei hun, sef y Brenin Arthur Pendragon a’r Archdderwydd Rollo Maughfling. Bu’r ddau yma’n bendithio’r safle am dywydd da yn ystod seremoni cyhydnos y gwanwyn, ac fe fyddan nhw hefyd yn agor yr Ŵyl ar y dydd Iau er mwyn cadarnhau tamaid o heulwen!

Lledrith lle

Wrth i’r Ŵyl dyfu ar hyd y blynyddoedd, roedd angen safle llawer mwy na’r llefydd cynt (Castell Craig y Nos a Neuadd Baskerville). Ro’n i’n sicr eisiau cadw’r digwyddiad yng Nghymru, ond roedd angen lleoliad o faint mwy nag o’r blaen ac a fyddai’n crisialu ysbryd annibynnol a hudolus yr ŵyl. Bues i’n ymweld â nifer o stadau, ond roedd yna rywbeth arallfydol o hardd am Barc Glanusk.

Newydd yn 09

Ymhlith yr hyn sy’n newydd yn 09, mi fydd gan yr ŵyl elusen iechyd meddyliol ‘Mind’ fel partner, mi fydd yna fwy o lefydd a gweithgareddau i deuluoedd ac mi fydd yna syrpreis ar ffurf 26 medr am hanner nos ar y Sul!

Digwyddiad delfrydol

Y gyfrinach yw creu swigen arallfydol sy’n rhoi’r rhyddid i bobol anghofio gofidion bywyd arferol ac i fwynhau mewn awyrgylch creadigol ac ymlaciedig. Os oes gennych drefnwyr sy’n gwerthfawrogi’r gwerth yr egwyddorion yma dros atyniad y geiniog, mae’n ddechreuad da!

(Llun y bocs blaen: Emyr Young)