Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cadarnhau bod Cymraes oedd wedi dal ffliw moch wedi marw.
Roedd y ddynes 55 oed o ardal Caerffili wedi mynd i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ar 2 Awst.
Cafodd hi ei throsglwyddo i uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar 6 Awst a bu farw ar ddydd Sadwrn 15 Awst.
Dyma’r farwolaeth gyntaf o ffliw moch yng Nghymru.
Mwy i ddilyn…