Mae barnwr yn Llys y Goron Abertawe wedi dweud bod y cyhoedd wedi cael llond bol ar bobol ifanc yn cronni yng nghanol dinasoedd er mwyn yfed ac ymladd.

Wrth ddedfrydu naw person oedd yn rhan o ffrwgwd meddw rhwng 30 o bobol yng nghanol y ddinas, fe ddywedodd y Barnwr Phillip Richards nad oedd pobol yn teimlo’n saff mewn dinasoedd bellach oherwydd digwyddiadau o’r fath.

Digwyddodd yr ymladd yn Oxford Street, a chlywodd y llys bod rhai pobol wedi’u dyrnu a’u cicio, ac un person yn ei arddegau wedi ei daro’n anymwybodol.

Yn ôl y Barnwr, a oedd wedi gweld tystiolaeth CCTV o’r digwyddiad, roedd hi’n amhosib cyfri’ faint o weithredoedd treisgar a ddigwyddodd yn ystod yr ymladd.

Y ddedfryd

Cafodd pedwar o bobol eu carcharu am flwyddyn, a chafodd pump arall ddedfryd o garchar wedi ei ohirio.

Wrth roi’r ddedfryd, dywedodd y barnwr nad oedd aelodau o’r cyhoedd yn teimlo’n saff yng nghanol dinasoedd gyda’r nos bellach, oherwydd digwyddiadau o’r fath.

(Llun: Nigel Davies-Trwydded CCA2.0)