Mae cwmni moduro yr AA yn dweud bod angen rheolaeth lymach ar y diwydiant clampio ceir, wrth i ymddygiad “drwg ac anfoesol” rhai cwmnïau preifat droi yn “epidemig”.

Yn ôl yr AA, mae ymddygiad y cwmnïau clampio “allan o reolaeth,” oherwydd arferion gwael, sy’n cynnwys peidio â gosod arwyddion ‘dim parcio’ mewn llefydd digon clir, a chodi crocbris am ryddhau car sydd wedi cael ei glampio.

Angen trwyddedu

Yn ôl pennaeth materion cyhoeddus yr AA, Paul Watters, fe ddylai’r cwmnïau orfod cadw at ganllawiau a thrwyddedu gan awdurdodau lleol yn hytrach na’u rheolau eu hunain

Ar hyn o bryd, meddai, does gan y cyhoedd ddim i amddiffyn eu hunain os oes cwmni yn “ymddwyn yn annheg” ac, oherwydd hyn, mae angen proses apelio sy’n “hollol annibynnol”.

Deddfu

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae’r Llywodraeth yn gweithio’n galed i lunio deddf a fydd yn atal cwmnïau rhag camddefnyddio eu grym.

Fe ddywedodd y gweinidog yn y Swyddfa Gartref, yr Arglwydd West, bod proses ymgynghori wedi dod i ben ac mai’r cam nesa mae ymgynghoriad ynglŷn â gorfodi’r cwmnïoedd clampio i gael trwyddedau wedi ei gwblhau, a taw’r cam nesaf yw llunio’r mesur.

Yn ôl yr Arglwydd West, y gobaith yw y bydd rheolau caeth yn cael eu gosod i reoli’r diwydiant flwyddyn nesaf.