Mae gwylwyr y glannau Abertawe wedi rhybuddio oedolion i oruchwylio’u plant ar ôl i blentyn 10 oed gael ei achub o harbwr Watchet yng Ngwlad yr Haf.
Roedd y bachgen yn chwarae ar risiau’r harbwr pan ddaeth ton a’i sgubo i’r môr ac yntau’n methu nofio.
Cafodd y bachgen ei achub gan gwch lleol ar ôl i wylwyr y glannau yn Abertawe anfon neges Mayday i ddweud ei fod o yn y dŵr.
Fe drawodd y plentyn ei ben yn erbyn wal yr harbwr ddwy neu dair gwaith yn ystod y digwyddiad.
Cafodd ei drin gan feddygon ar y safle wedi’r ddamwain, a’i gludo adref gan barafeddygon.