Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod dau filwr Prydeinig wedi eu lladd mewn ffrwydrad yn rhanbarth Helmand Afghanistan wrth i’r wlad bleidleisio yn yr etholiadau arlywyddol ddoe.
Lladdwyd y milwyr pan oedden nhw ar batrôl yn rhan o’r gwaith o geisio gwarchod pleidleiswyr. Roedd cyfres o ymosodiadau ddoe ond doedd y trais ddim mor ddrwg ag yr oedd rhai wedi’i ofni.
Cyn y newyddion am y ddwy farwolaeth roedd y gweinidog tramor David Miliband wedi dweud ei fod “wedi paratoi am y gwaetha’ ond wnaeth y gwaethaf ddim digwydd”.
Dinistrio hofrennydd ar ôl ymosodiad
Mewn digwyddiad arall bu’n rhaid i filwyr Prydeinig ddinistrio eu hofrennydd Chinook eu hunain i’w rwystro rhag mynd i ddwylo’r gelyn yn Afghanistan.
Fe lwyddodd y criw o bedwar i ffoi ar ôl i dân yn yr injan orfodi’r peilot i lanio ar frys ger Sangin, tref yn rhanbarth Helmand.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedden nhw’n siŵr ai ymosodiad gan y Taliban oedd yn gyfrifol am y difrod i’r hofrennydd.
Byddai colli’r hofrennydd yn ergyd i’r ymgyrch yno gan mai dim ond wyth Chinook oedd gan fyddin Prydain yno ac mae’r Llywodraeth wedi cael ei beirniadu eisoes am brinder hofrenyddion.
Hofrenyddion yw un o’r ychydig ffyrdd i osgoi’r bomiau min-y-ffordd sydd wedi lladd cynifer o filwyr.
Cafodd y pedwar milwr oedd yn y Chinook eu hachub gan hofrennydd arall oedd yn yr ardal.