Mae heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio i farwolaeth amheus dyn 22 oed o ardal Cymer yng Nghwmafan.
Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i Bracla ger Pen y Bont yr Ogwr y bore yma.
Arestiwyd dynes 18 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae wedi ei chadw yn y ddalfa.
Mae’r adeilad wedi ei gau wrth i archwiliadau fforensig barhau ac mae perthnasau’r dyn wedi cael gwybod.