Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad i weithredoedd Heddlu Gwent cyn dod o hyd i gorff Bobbie Stokoe, y “corff yn y carped”.
Y bore yma ymddangosodd Darrell Smith, 40 oed, o flaen Llys Ynadon Caerffili ar gyhuddiad o lofruddio’r fenyw yn ardal Pontypŵl ond, yn ôl y Comisiwn Cwynion, roedd Heddlu Gwent wedi derbyn galwad ffôn amdani ddiwrnod cyn ei darganfod.
Roedd honno, a thair galwad wedyn, wedi ei gwneud ddydd Mawrth yn codi pryderon am ddiogelwch Bobbie Stokoe.
Fe ddaeth y swyddogion o hyd i gorff Bobbie Stokoe wedi ei lapio mewn carped ar ddarn o dir wast ar Heol Beeches yn Nhrefddyn, ychydig wedi 10.00 bore dydd Mercher 19 Awst.
“Mae ymchwilydd uwch ar ran yr IPCC wedi cwblhau ein hasesiad ac wedi penderfynu y dylen ni gynnal ymchwiliad annibynnol i sut y gwnaeth Heddlu Gwent ymateb i’r galwadau ffôn yn poeni am les Bobbie Stokoe,” meddai llefarydd ar ran yr IPCC.