Mae’r Ysgrifennydd Busnes, yr Arglwydd Peter Mandelson, wedi mynd i’r ysbyty yn Llundain heddiw ar gyfer triniaeth i’w brostad.
Cafodd yr Arglwydd Mandelson, a oedd wedi camu i mewn i rôl y Prif Weinidog tra oedd Gordon Brown ar wyliau’r wythnos diwethaf, ei gludo i Ysbyty St Mary’s yn Paddington dros nos.
Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth mae’r llawdriniaeth yn un gyffredin a does dim angen poeni yn ei gylch. Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd dreulio’r noson yn yr ysbyty.
Dyma’r un ysbyty y treuliodd amser ynddi fis Hydref diwethaf, a hynny’n dilyn problemau â cherrig yn ei aren.