Fe fu farw’r Archdderwydd Dic Jones ar ôl salwch o rai misoedd.

Roedd wedi methu â chymryd rhan yn yr Eisteddfod na’r Ŵyl Gyhoeddi cyn hynny ond roedd wedi anfon cywydd ar gyfer seremoni’r Cadeirio wythnos a hanner yn ôl.

Dic Jones oedd un o gynganeddwyr gorau Cymru ac ym marn llawer ef oedd pinacl traddodiad y bardd gwlad – yn ffermio wrth ei waith bob dydd ond yn barddoni yn ei amser hamdden.

Campwaith

Ei awdl Y Cynhaeaf wrth ennill Cadair Aberafan yn 1966 oedd un o awdlau gorau’r ganrif ddiwetha’ ac, er na chafodd y Gadair oherwydd torri rheolau yn 1976 yn Aberteifi, roedd ei awdl i’r Gwanwyn bryd hynny hefyd yn gampwaith.

Er iddo fyw y rhan fwya’ o’i oes ym Mlaenannerch, un o ogledd Ceredigion oedd Dic Jones neu Richard Lewis Jones, a rhoi iddo’i enw llawn.

Roedd wedi ei eni yn 1934 yn Nhre’r Ddôl ond fe ddysgodd ei grefft fel bardd gydag Alun Cilie yng ngwaelod y sir, un o deulu enwog “Bois y Cilie.”

Archdderwydd

Fe ddaeth yn enwog i ddechrau trwy ennill cadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn ystod yr 1950au.

Fe ddaeth yn Archdderwydd yn 2008 ond, oherwydd ei salwch, dim ond mewn un eisteddfod y cafodd weinyddu.

Roedd hefyd yn enwog am ei hiwmor; yn ogystal ag englynion a cherddi doniol, fe fu’n aelod o banel y De ar y rhaglen radio Penigamp am flynyddoedd.

Am bron 20 mlynedd, fe fu’n golofnydd i gylchgrawn Golwg a, sawl tro, fe sgrifennodd golofn gyfan ar gynghanedd. Fe fu hefyd yn gadeirydd ar Dalwrn y Beirdd, ochr yn ochr â Gerallt Lloyd Owen.

Fe gyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, gan gynnwys Agor Grwn, Cerddi’r Cynhaeaf, Storom Awst a Sgubo’r Storws, a’r teitlau’n tynnu ar ei ymlyniad clos at y pridd.

Yn ogystal â’i adnabyddiaeth ddofn o gefn gwlad a ffermio, roedd ei gerddi i brofiadau personol – fel salwch ei wraig, Sian, a cholli plentyn yn fabi bach – ymhlith cerddi gorau’r genedl.

Ynghynt eleni, fe fu farw un arall o’i ffrindiau mawr ac athro barddol iddo, T. Llew Jones.

Eisteddfod y Ddwy Gadair

Y digwyddiad mwya’ dadleuol yn ei hanes oedd Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi, pan dorrodd y rheolau trwy gystadlu, er ei fod wedi ei enwi yn aelod o’r Pwyllgor Llên.

Fe honnodd ar hyd yr amser nad oedd wedi derbyn y fath swydd ond roedd hefyd wedi defnyddio cyfeiriad dieithr ac fe gafodd ei ddiarddel. Fe achosodd yr helynt chwerwedd o fewn y byd barddonol wrth i Alan Llwyd gael ei gadeirio’n anfoddog yn ei le.

Yr unig gysur oedd bod dwy awdl ardderchog wedi cael eu cyfansoddi – a’r ddwy wedi eu cyhoeddi yn Y Cyfansoddiadau.

Teyrngedau i Dic