Bydd nifer yr oedolion o oed gweithio sydd ar fudd-daliadau yn taro chwe miliwn erbyn diwedd y mis, yn ôl arbenigwyr.

Dywedodd y ‘think tank’ adain-dde, Policy Exchange, bod angen diwygio’r system fudd-daliadau neu fe fydd y gost yn cyrraedd £193 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn nesa’.

Mae eu barn wedi ei seilio ar ffigyrau swyddogol y llywodraeth ynglŷn â’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau a’r nifer sy’n ddi-waith.

Mae’r ffigyrau diweddaraf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn dangos bod 5.8 miliwn o bobol o oed gweithio yn hawlio budd-daliadau.

Yr wythnos diwethaf roedd ffigyrau diweithdra yn y tri mis hyd at fis Mehefin yn dangos bod nifer y bobol ar y dôl wedi codi bron i 15,000 i 1.58m.


Gwario dwbl ffigwr 1997

Dywedodd Neil O’Brien, cyfarwyddwr Policy Exchange, y gall nifer y bobol sy’n derbyn budd-daliadau gyrraedd 6.8m erbyn diwedd 2010.

“Yn 1997 roedden ni’n gwario £93 biliwn ar fudd-daliadau, y flwyddyn nesaf fe fyddwn ni’n gwario £193 biliwn, sef dwywaith hynny.”

Gwrthod yr adroddiad

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwrthod yr adroddiad, gan ddweud ei fod yn anwybyddu ymdrechion i helpu pobol yn ôl i weithio.

“Cyn y dirwasgiad roedd nifer y bobol oedd yn hawlio’r dôl ar ei lefel isaf ers 30 mlynedd,” meddai llefarydd. “R’yn ni’n buddsoddi £5bn i helpu pobol yn ôl i’r gwaith ac fe wnaethon ni helpu mwy na 330,000 o bobol oddi ar fudd-daliadau yn ystod y mis diwetha’.”