Mae un o weinidogion y Llywodraeth wedi dweud y bydd y Ceidwadwyr yn troi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “gwango mwyaf y byd,” os byddan nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol nesa’.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Andy Burnham, wedi cynyddu’r pwysau ar y Ceidwadwyr wrth i agwedd y Torïaid tuag at y Gwasanaeth ddod o dan y chwyddwydr .

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae dau Aelod Torïaidd o Senedd Ewrop wedi beirniadu’r Gwasanaeth yn gyhoeddus er bod eu harweinydd, David Cameron, yn mynnu bod y Torïaid yn llwyr gefnogol iddo.

Ond mewn erthygl yn y Guardian heddiw, mae Andy Burnham yn honni fod “gwahaniaeth athroniaeth” rhwng y pleidiau ynglŷn â’r sefydliad.

‘Gambl fawr’

Dywedodd Andy Burnham bod cynlluniau’r Torïaid i roi’r Gwasanaeth Iechyd o dan ofal bwrdd annibynnol yn “gambl fawr” ac y byddai cynyddu gwahaniaethau lleol yn gwneud cam â’r bobol fwya’ di-fraint.

“Dyw’r syniad o drawsnewid hoff sefydliad Prydain i fod yn gwango mwyaf y byd – sy’n gyfrifol am gyllideb o £100 biliwn a 1.4 miliwn o weithwyr – heb dderbyn digon o sylw.”

Amddiffyn y gair Gwladol, sy’n bwysig i’r blaid Lafur, meddai Andy Burnham: “Mae ein hymrwymiad i safonau a strwythurau cenedlaethol ym maes iechyd yn dal yn gryf. Hebddyn nhw, rydyn ni’n gwybod mai’r ardaloedd tlotaf sy’n dueddol o gael y gwasanaeth gwaetha’.”