Mae gan un Cymro rôl allweddol i wneud yn siŵr fod Gêmau Olympaidd Llundain yn cael effaith tymor hir, mewn un gamp o leia’.

Ar ôl llwyddo trwy ganolfan Coed y Brenin yn Eryri i godi statws Cymru i un o lefydd gorau’r byd am feicio mynydd, mae Dafydd Davies yn awr yn ceisio creu llwybrau hamdden yn ninas Llundain ei hun.

Ac yntau bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun, mae hefyd yn datblygu llwybrau mewn llefydd fel Iwerddon, Israel, Canada, Japan, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. Ac, ym mhob man, mae’n ceisio cynnal y balans rhwng adloniant, cadwraeth a choedwigaeth.

Ei bryder mawr bellach yw bod yr Alban wedi hen basio Cymru o ran llwybrau beicio mynydd ac mae hynny’n peryglu dyfodol cymunedau Cymraeg hefyd – ym marn Dafydd Davies, creu adnoddau amser hamdden yw un o’r ffyrdd gorau i gadw pobol ifanc yng nghefn gwlad.

“Mae’r Alban wedi hen ddatblygu heibio ni yng Nghymru o ran llwybrau,” meddai. “Mae Cymru dal yn wlad grêt am feicio, ond yn sicr mae angen i ni roi mwy o waith ag arian i mewn i’r sector.

“Un o’r prif ffyrdd o ddiogelu’r iaith yn fy nhyb i ydi cadw pobl ifanc yn eu cynefin, ond i wneud hyn mae’n rhaid creu ffordd o fyw sy’n llawn dyheadau – ac mae gweithgareddau yn rhan o hyn.”

Yn Llundain, mae’n rhan o brosiect ‘Legacy’ y Parc Olympaidd, yn creu llwybrau dinesig ar gyfer beicio, cerdded neu farchogaeth i barhau wedi 2012: “Boed yn gefn gwlad Cymru neu’n Ddwyrain Llundain, mae’n bwysig i fi fod cymunedau yn manteisio o’u llwybrau gweithgaredd lleol.”

Byd y beicio – cyfweliad arbennig

Dafydd Davies yn ateb cwestiynau 360

Cyfle cudd

Os dw i’n onest, ar y dechrau, cyfle i ennill digon o arian i gwblhau fy nhystysgrif mynydda oedd tu ôl i fy mhenderfyniad i gymryd swydd yng Nghoed y Brenin, ond cyn pen dim, dechreuais sylweddoli potensial y rôl – y Comisiwn Coedwigaeth oedd un o’r asiantaethau cyntaf i gael ei datganoli o San Steffan i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a dyma gyfle felly i ddangos sut oedd Cymru fach yn medru arwain y ffordd heb Lundain.

Ar dy feic!

Heb lawer o gyfarwyddyd, cyllideb nac unrhyw adnoddau, ro’n i ar fy mhen fy hun. Prif bwrpas y ganolfan o ran y Comisiwn Coedwigaeth oedd lle i dyfu coed, ac nid lle i ddarparu adloniant. Ond cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r ganolfan oedd fy mhrif nod fel ceidwad parc am y ddwy flynedd nesaf, ac felly gan ddefnyddio fy mhrofiad fel hyfforddwr, mi es ati i greu cyrchfan beicio mynydd er mwyn denu diddordeb.

Tu allan i’r bocs

Oherwydd y diffyg arian ag adnoddau, roedd rhaid dod o hyd i ffyrdd creadigol o ddatblygu’r llwybrau. Felly mi ofynnais i fudiadau ieuenctid am wirfoddolwyr, mi es i at yr RAF am gymorth ac mi gymerais fantais o gynllun prentisiaid cwmni ‘Ford’, gan roi’r cynlluniau, yr offer a’r tasgau iddynt fel rhan o’u hymarfer tîm. Yn sgil hyn mi dyfodd ein noddwyr a’n cyhoeddusrwydd, ac mi alluogodd hyn i mi ofyn i Lywodraeth y Cynulliad am arian i ddatblygu llwybrau pellach ar draws Gymru.

Cyrchfan: Cymru

Yn 2002, fe ddatganodd y mudiad beicio mynydd rhyngwladol (IMBA) bod Cymru yn un o gyrchfannau gorau’r byd ar gyfer beicio mynydd. Yn ogystal â hyn, roedd pobl rŵan yn dod i’r Gogledd oherwydd Coed y Brenin.

Deffro’r gymuned

Ond y llwyddiant go iawn i mi oedd gweld pobol leol yn mwynhau reidio beiciau yng Nghoed y Brenin. Pan ddechreuais yno, doedd pobol leol jest ddim yn ymwybodol o’r hyn oedd ar drothwy’r drws. Mae canolfannau cyhoeddus felly’n medru helpu dealltwriaeth pobol o’u hamgylchfyd naturiol.

Welsh not
Pan o’n i’n syrffio a dringo yn hogyn deg oed, ro’n i’n cael fy ystyried fel weirdo i raddau – doedd Cymry Cymraeg ddim yn mwynhau gweithgareddau o’r fath – rhywbeth i Saeson oedd hynny.

Y filltir sgwâr

Dw i’n dal i fyw ddwy filltir o le ces i fy magu yng Ngellilydan ger Blaenau Ffestiniog. Mae’n wir nad ydw i’n ennill cymaint o bres am fy ngwaith â taswn i yn Llundain, ond dw i wedi aros oherwydd dw i’n medru reidio beic a dringo unrhyw bryd os dwi eisio ac yn medru dwyn fy mhlant i fyny i wneud yr un fath. Mae rhai pethau nad oes modd eu mesur mewn arian.

O Goed y Brenin i Balas y Frenhines

Roedd derbyn MBE yn swreal. Wedi sicrhau nad fy ffrind oedd yn chwarae tric efo’r llythyr hynafol ei iaith, ro’n i’n cachu ‘nhrowsus – a dw i ddim yn dychryn yn hawdd! Gollyngodd y tacsi ni ar flaen y gatiau mawr efo’r dynion mewn hetiau gwirion a chleddyfau ac yno’n sydyn reit, fe’n tywyswyd i mewn i’r palas am frechdanau ciwcymbr a Bucks Fizz. Dw i ddim yn gweld fy hun fel rhan o ryw ‘sefydliad’ ond roedd o’n deimlad braf i Gymro ifanc o Gellilydan dderbyn y fath anrhydedd ochr yn ochr â milwyr di-ri a Michael Fish, y dyn tywydd!

Pwysigrwydd paned o de

Er bod gen i dipyn o enw fel dyn antur, y ‘baned o de’, neu’r lefelau isa’ ydi un o’r pethau pwysica’ am weithgaredd yn fy nhyb i fel datblygwr llwybrau, gan mai hyn fydd yn denu teuluoedd neu ddechreuwyr i mewn i weithgareddau. Mae’n bwysig rhoi cyfle i bobol symud drwy’r farchnad, o’r lefelau is i’r rhai uchaf – dyma beth mae’r farchnad sgïo wedi gwneud …

Be sy’n gwneud llwybr da

Yn nyddiau cynnar creu’r llwybrau yng Nghoed y Brenin, ro’n i a’r gwirfoddolwyr yn llythrennol yn gweithio â chaib a rhaw, tan i ni dderbyn nawdd a alluogodd i ni brynu peiriannau. Mae dulliau llafur yn siŵr o amrywio ond mae egwyddorion adeiladu llwybr da yn ddigyfnewid ac yn golygu manteisio ar nodweddion naturiol y tir er mwyn cydweddu â’r amgylchfyd a rhwyddhau’r llafur, yn ogystal â chynllunio nodweddion o waith dyn fydd yn cynnig rhyw elfen ychwanegol o gyffro i’r defnyddiwr. Wrth gwrs, hanfodol wedi’r adeiladu ydi’r dasg o brofi’r llwybr eich hun a’i gynnal yn wyneb yr elfennau!