Dylan Iorwerth a hoffter y Tywysog o wthio’i drwyn i mewn…

Mae gan y Tywysog Charles hawl i’w farn. Mae ganddo fo hawl i’w mynegi hi hefyd.

Yr hyn nad oes ganddo fo ddim ydi hawl i ddefnyddio ei sefyllfa freintiedig i ddylanwadu ar gyrff a mudiadau y mae’n ymwneud â nhw.

Dydi atgasedd Aer y Goron at bensaernïaeth fodern ddim yn gyfrinach ac mae wedi datgan hynny’n ddigon plaen sawl tro.

Ond, yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae wedi dod yn amlwg ei fod wedi defnyddio’i rym i drio dylanwadu ar wahanol gyrff a mudiadau i newid eu polisi ar adeiladau.

Y diweddara’, yn ôl pob sôn, ydi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n noddwr arni ac, os ydi papur y Guardian yn iawn, mi fygythiodd dynnu’n ôl os nad oedd yn cael ei ffordd ynglŷn â phencadlys y mudiad.

Does dim eisiau gwastraffu gormod o gydymdeimlad ar yr Ymddiriedolaeth ond mae hyn yn ddefnydd cwbl anghywir o safle breintiedig y Tywysog.

Arian cyhoeddus sy’n talu am ei waith brenhinol ac yn rhinwedd hynny a dim arall y mae’n cael ei ddewis yn noddwr hyn a’r llall. Yn y rôl honno, hyd yn oed os ydi o’n dywysog, mae hefyd yn was cyhoeddus.

Dyma enghraifft arall o’r ffordd y mae sefydliad y Goron a’r Frenhiniaeth yn ystumio bywyd cyhoeddus yng ngwledydd Prydain ac, os nad oes modd cael gwared ar y sefydliad, mae angen rheolau clir ar y ffordd y mae’n gweithredu.

Mae angen tynnu llinellau clir rhwng rôl Charles yn dywysog ac yn berson preifat ac, yn y rôl gyhoeddus, mae angen iddo fod yn gwbl agored. Mae angen i ni wybod sut yn union y mae’n ceisio defnyddio’i swydd.

Os ydi o’n anfon llythyrau swyddogol, mae gynnon ni hawl i’w gweld nhw; os ydi o’n ymyrryd yng ngwaith unrhyw gorff sy’n rhan o’i swyddogaeth gyhoeddus, mae gynnon ni hawl i wybod.

Ond yr ateb gorau ydi – trwyn allan. Newidiwch y frawddeg gynta’. Mae gan Charles hawl i’w farn; does gan y Tywysog ddim.