Mae mam y canwr Michael Jackson yn ystyried siwio tros amgylchiadau marwolaeth ei mab, meddai ei chyfreithiwr heddiw.

Ar ôl gwrandawiad llys yn Los Angeles, dywedodd Burt Levitch, cyfreithiwr Katherine Jackson fod y syniad wedi cael ei “awgrymu” ac mai’r prif enw a gafodd ei grybwyll oedd Dr Conrad Murray, meddyg personol y canwr.

Mae’r heddlu wedi bod yn canolbwyntio eu hymchwiliad i raddau helaeth ar Conrad Murray, ar y sail y gallai fod wedi rhoi cyffur cysgu amhriodol o gryf i’r canwr, cyn ei farwolaeth.

Fe wrthododd cyfreithiwr Katherine Jackson ddweud dim rhagor am yr achos a doedd cyfreithwyr Conrad Murray ddim am wneud sylw chwaith. “Mae penderfyniad teulu Michael Jackson i ddod ag achos sifil ai peidio’n fater iddyn nhw” meddai llefarydd.