Mae damwain yng ngwaith trydan dŵr mwya’ Rwsia wedi lladd o leiaf 12 ac mae 64 arall ar goll.

Dyw union achos y ddamwain yng ngorsaf ynni Sayano-Shushinskaya yn ne Siberia ddim yn glir eto ond mae’n ymddangos bod un transformer wedi ffrwydro yn ystod gwaith atgyweirio.

Fe gafodd rhai o’r dynion eu lladd wrth i un o’r ystafelloedd orlifo â dŵr a chafodd eraill eu gwasgu gan rwbel.

Mae dau dyrbin wedi eu dinistrio’n llwyr ac un arall wedi cael difrod mawr – yn ôl y perchnogion, RusHydro, fe fydd hi’n cymryd blynyddoedd i’w trwsio.

O ganlyniad i’r ddamwain, bu toriadau pŵer mewn sawl ardal ac mae gorsaf Sayano-Shushinskaya yn darparu ynni i sawl ffatri alwminiwm fawr, gan gynnwys ffatrïoedd Rusal – cynhyrchwyr alwminiwm mwyaf y byd.

Yn ôl Yelena Shuliveistrova, llefarydd ar ran Rusal, roedden nhw’n gweithredu fel arfer, gyda phŵer o ffatrïoedd eraill yn cael ei ddefnyddio i gynnal eu ffwrneisi.