Ddylai’r heddlu ddim cael yr hawl i roi cosb ar-y-pryd i bobol sy’n gyrru’n ddiofal, meddai Cymdeithas yr Ynadon.

Maen nhw wedi gwrthod awgrym yr Adran Drafnidiaeth i roi’r hawl i blismyn gosbi troseddwyr yn y fan a’r lle.

Yn ôl yr ynadon, fedrech chi ddim dibynnu ar yr heddlu i ddefnyddio’u pwerau yn addas, nag yn ôl y bwriad.

O dan gynigion y Llywodraeth, byddai plismyn yn gallu rhoi cosb o £60 a thri phwynt ar yrwyr diofal – o’i gymharu ag uchafswm o £5,000 a naw phwynt mewn llysoedd.

Camddefnydd “yn sicr”

Wrth ymateb i ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth, fe ddywedodd Cymdeithas yr Ynadon fod profiad gyda chosbau ar-y-pryd eraill yn golygu fod rhaid gwrthwynebu.

Roedd dau brif beryg, medden nhw – fod gyrru diofal yn cael ei drin fel trosedd fach neu fod gyrwyr diniwed yn derbyn y gosb er mwyn osgoi’r drafferth o fynd i lys.

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn dweud y byddai’r drefn newydd yn torri ar fiwrocratiaeth ac yn lleihau pwysau gwaith ar yr heddlu. Dim ond achosion difrifol iawn a fyddai’n mynd i lys.

Barn yr ynadon

“Unwaith y can’ nhw’r pwerau hyn, fe fydd yr heddlu yn eu camddefnyddio, mae hynny’n sicr. Bydd gyrru diofal yn cael ei thrin fel trosedd fach, os na fydd anafiadau difrifol. Mae hyn yn gosod cyfleustra’r heddlu o flaen yr hyn sy’n iawn.” – Chris Hunt Cooke, Cadeirydd Pwyllgor Trafnidiaeth, Cymdeithas yr Ynadon.

Llun (Trwydded GNU)