Mae cyn-arwr rygbi Lloegr, Dean Richards, wedi cael y ban o’r Cwpan Heineken am dair blynedd am ei ran mewn ffugio anaf gwaed.

Fe fydd rhaid i’w gyn-glwb, Harlequins, hefyd dalu 300,000 Ewro erbyn y Nadolig ar ôl ail wrandawiad i’r digwyddiad yn y gêm wyth olaf yn erbyn Leinster y llynedd.

Fe gynyddwyd y gosb ar Richards, yr hyfforddwr ar y pryd, ac ar y clwb ar ôl i’r chwaraewr yng nghanol yr helynt apelio yn erbyn gwaharddiad o flwyddyn arno ef.

Oherwydd tystiolaeth newydd gan Tom Williams, fe ddaeth rôl Richards yn llawer cliriach ac fe gyfaddefodd mai ef oedd wedi arwain yr ymgais i guddio’r gwir.

Roedd yna waharddiad o ddwy flynedd hefyd ar y ffysio, Steph Brennan, a oedd wedi trefnu’r digwyddiad ar y pryd. Ond fe gafodd y gwaharddiad ar Tom Williams ei leihau o flwyddyn i bedwar mis.

Y twyll

• Bwriad y twyll oedd cael Tom Williams oddi ar y cae, er mwyn i giciwr profiadol ddod yn ei le. Ar y pryd, roedd y Quins yn colli a’r bwriad oedd cael gôl adlam i ennill y gêm.

• Mae’n ymddangos fod Williams wedi cael capsiwl gwaed ac wedi ei guddio yn ei hosan, cyn ei gnoi ar y funud dyngedfennol. Oherwydd y gwaed, roedd rhaid iddo adael y cae.

• Fe ddechreuodd y twyll ddod i’r amlwg pan welwyd Williams ar gamera yn rhoi winc a chodi bawd.

• Mae yna honiad hyd yn oed fod un o staff y Quins wedi rhoi archoll go iawn ym moch Williams wedyn, er mwyn ceisio cuddio’r gwir.

• Methu a wnaeth y gic adlam … a cholli a wnaeth y Quins.

Llun: Tom Williams – ei dystiolaeth yn cornelu Richards