Mae rocedi wedi taro palas yr Arlywydd a phencadlys yr heddlu ym mhrifddinas Afghanistan.

Does dim sôn am farwolaethau eto yn y ddau ddigwyddiad yn Kabul ond mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera yn awgrymu fod ymosodiad arall wedi bod yn ninas fawr Jalalabad.

Fe ddaw hyn ddeuddydd cyn i bobol Afghanistan bleidleisio yn etholiad yr arlywydd ac mae’r tri phrif ymgeisydd yn dweud y byddan nhw’n ceisio trafod gyda’r Taliban sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.

Yn ôl asiantaeth newyddion Reuters, roedd llefarydd ar ran y gwrthryfelwyr Moslemaidd yn dweud eu bod wedi tanio pedair roced i gyd.

Yr Arlywydd presennol, Hamid Karzai, yw’r ffefryn o hyd i ennill yr etholiad ac fe fu honiadau fod ei frawd, Ahmed, a ffigwr blaenllaw arall, Arif Noorzai, wedi bod yn trafod gyda’r Taliban ac wedi rhoi arian iddyn nhw am beidio ag ymosod adeg yr etholiad.

Pum mlynedd

Yn y cyfamser, mae pennaeth y fyddin, Syr Richard Dannatt, wedi rhybuddio y bydd angen i filwyr Prydeinig fod yn ymladd yn Afghanistan am bum mlynedd arall.

Fe fyddai “peth amser” yn mynd, meddai, cyn bod lluoedd Afghanistan yn barod i gadw’r heddwch. Mae hyn yn groes i broffwydoliaethau llawer mwy optimistig gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth.

Llun: Kabul (Joe Burger – trwydded CCA 2.0)