Mae papur newydd yn yr Alban yn hawlio fod bomiwr Lockerbie wedi bod yn anfon eiddo personol yn ôl i Libya ers “rhai wythnosau”.

Os yw honiad y Scotsman yn gywir, fe fydd yn cryfhau amheuon y gwrthbleidiau yn yr Alban fod y Llywodraeth yno eisoes wedi penderfynu ar dynged Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi.

Mae disgwyl i’w achos gael ei drafod yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin heddiw pan fydd yn gwneud cais i ollwng ei apêl yn erbyn y ddedfryd o garchar am oes am ladd 270 o bobol yn yr ymosodiad terfysgol yn 1988.

Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu, fe fydd yn rhoi’r cyfle i al-Megrahi gael ei anfon yn ôl i’w famwlad neu hyd yn oed i gael ei ryddhau ar sail tosturi – mae meddygon yn dweud ei fod ar fin marw o ganser y prostad.

Penderfyniad fory?

Yn ôl rhai adroddiadau, fe allai’r gweinidog cyfiawnder yn yr Alban, Kenny McAskill, gyhoeddi ei benderfyniad fory ac mae’r pwysau’n cynyddu arno o ddydd i ddydd.

Yn ogystal â honiadau’r gwrthbleidiau ei fod wedi penderfynu eisoes, mae saith o seneddwyr o’r Unol Daleithiau wedi sgrifennu ato yn galw arno i beidio â gadael i al-Megrahi adael y carchar yn yr Alban.