Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn yn ei dwyllo’i hun yn llwyr, meddai mam y Cymro diweddara’ i farw yn Afghanistan.

Fe ddylai Bob Ainsworth fynd allan i flaen y gad i weld sut y mae pethau, meddai Heather Hunt, mam y Preifat Richard Hunt, 21, o Hardwick ger Y Fenni.

Fe ddywedodd y wraig 49 oed wrth bapur newydd y Daily Mail fod y gwleidydd yn “dwp a thrahaus” wrth ddweud y byddai’r fyddin yn gallu dechrau gadael Afghanistan o fewn “tua blwyddyn”.

Fe gefnogodd alwadau pennaeth y fyddin, Syr Richard Dannatt, am ragor o adnoddau – “Mae’n fy ngwylltio pam fydd ein harweinwyr yn galw am ragor o adnoddau ond does yna ddim byd yn digwydd,” meddai.

“Mae Bob Ainsworth yn twyllo’i hun yn llwyr. Mae pobol wedi bod yn goresgyn ac yn ymladd yn Afghanistan ers canrifoedd. R’yn ni wedi cael ein cicio mas ddwywaith a dyw’r Rwsiaid ddim wedi llwyddo.

“Rhaid cael cynllun clir. Heb hynny, bydd milwyr yn parhau i farw.”

Gwasanaeth i gofio

Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Y Fenni i gofio Richard Hunt a oedd ar fin dathlu ei ben-blwydd.

Fe gafodd ei ladd gan fom min-y-ffordd ac, yn ôl Syr Richard Dannatt, mae angen rhagor o adnoddau i geisio atal y rheiny.