Mae heddluoedd Cymru a Lloegr yn fwy parod i danio’r gwn Taser – yr arf sy’n rhoi sioc drydanol – yn ôl ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Bu cynnydd o bron i draean yn y nifer o weithiau y cafodd yr arfau yma eu tanio yn chwarter cyntaf y flwyddyn – 226 o gymharu â 174 yn y chwarter blaenorol.

Wrth gyfiawnhau’r cynnydd yn y defnydd a wneir ohonynt, dywedodd y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am yr Heddlu, David Hanson, AS Delyn, fod yr arfau yma’n helpu achub bywydau trwy dawelu sefyllfaoedd peryglus.

“Dw i’n benderfynol o roi i’r heddlu’r offer y mae arnynt ei angen i ddelio â throseddau treisgar,” meddai.

“Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddau ar ein strydoedd ac yn helpu i gadw’r cyhoedd a’n heddweision yn saff.”

Ond dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion cartref, Tom Brake, ei fod yn bryderus o weld y cynnydd yn y defnydd o’r drylliau 50,000 folt.

“Dylai Tasers fod yn nwylo ychydig o heddweision sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig, and nid yn bethau i’w defnyddio bob dydd,” meddai.

Y llynedd cyhoeddodd y Swyddfa Gartref eu bod yn ehangu’r hawl i ddefnyddio’r Tasers i bob heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r gwn Taser yn gallu taflu sioc drydanol nerthol hyd at 10 llath i ffwrdd, gan adael y targed wedi ei barlysu dros dro, ac felly’n haws ei arestio. Ond mae rhai sy’n feirniadol ohonynt yn dadlau y gallant ladd, ac na ddylid ond eu defnyddio pan fydd wirioneddol raid.

Llun: Heddwas yn profi gwn Taser (Danny Lawson / PA Wire)