Datgelwyd heddiw mai milwr 21 oed o’r Fenni oedd y 200fed milwr i gael ei ladd yn Affganistan.

Roedd Preifat Richard Hunt yn gwasanaethu yn ail fataliwn y Gatrawd Frenhinol Gymreig ac roedd wedi cael ei anafu ar batrol cerbydau ger Musa Qala yn nhalaith Helmand ddydd Iau.

Bu farw mewn ysbyty ym Mhrydain ddydd Sadwrn.

Cynhaliwyd gwasanaethau coffa iddo ef a thri arall o’i gyd-filwyr wrth i’r haul fynd i lawr yn nhalaith Helmand heno.

Bydd cyrff y tri, sef Matthew Hatton, 23 oed, Daniel Wild, 19 oed a’r Capten Mark Hale, 42 oed yn cael eu hedfan yn ôl i faes awyr RAF Lyneham yn Wiltshire fore fory.

Ar ôl gwasanaeth preifat i’w teuluoedd yn y maes awyr bydd eu heirch yn cael eu cludo drwy dref Wooton Bassett.

Llun: Baneri’n hedfan ar hanner y mast yn Helmand ddoe i goffáu’r milwyr.