Mae Heddlu De Cymru yn hawlio eu bod wedi llwyddo wrth blismona Gwersyll Hinsawdd Cymru ger Merthyr Tudful.

Fe ddaeth y digwyddiad i ben heddiw yn ôl y disgwyl, gyda dim ond un brotest fawr ac un dyn yn cael ei arestio.

Ddydd Sadwrn, roedd tua 100 o’r gwersyllwyr wedi mynd ati i feisio “meddiannu” safle glo brig Ffos y Frân, sef targed y gwersyll.

Fe osododd yr heddlu Orchymyn Trefn Gyhoeddus arnyn nhw i’w hatal rhag mynd ymhellach, ond fe geisiodd rhai barhau ar eu taith. Yn y diwedd, fe gafodd un dyn ei frathu gan gi a’i gyhuddo o dorri’r Gorchymyn.

Yn ôl un o drefnwyr y brotest, Jill Lloyd, roedden nhw wedi penderfynu ar fyr rybudd fod angen cael “tro hinsawdd” i ddangos i ail-feddiannu’r safle, un o’r gweithfeydd glo brig mwya’ yng ngwledydd Prydain.

“Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n dangos ein gwrthwynebiad symbolaidd i’r gwaith,” meddai, gan ddweud fod pobol leol yn teimlo eu bod wedi eu gadael heb unrhyw gefnogaeth.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu De Cymru, roedden nhw wedi cadw’r cydbwysedd rhwng hawl y protestwyr i fynegi barn a buddiannau trigolion a busnesau lleol.

Llun – o wefan y gwersyll