Fe fu farw un o haneswyr penna’r môr a’r diwydiant gwlân yng Nghymru ac yntau mor brysur ag erioed yn cyhoeddi llyfrau am y maes.

Roedd J. Geraint Jenkins wedi symud yn ôl i’w ardal enedigol, ger y glannau yng ngwaelod Ceredigion ar ôl gyrfa yn y maes amgueddfeydd yng Nghaerdydd – gan fod yn Guradur yr Amgueddfa Ddiwydiant a Môr ac wedyn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Fe gyhoeddodd bron 50 o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg yn benna’ ynglŷn â chrefftau gwlad a hanes llongau. Yn addas iawn, teitl ei hunangofiant oedd Morwr Tir Sych.

Roedd wedi ei eni ym Mhenbryn, Sir Aberteifi, yn 1929 – ardal a fu’n enwog am ei llongau – ac roedd wedi dychwelyd yno gan ail afael yn ei waith ymchwil.

Roedd hefyd wedi ei ethol yn gynghorydd sir.

Llun: Rhan o glawr yr hunangofiant gan Wasg Gomer