Cyn-wraig y priodfab oedd yn gyfrifol am y tân a losgodd 41 o wragedd a phlant mewn priodas yn Kuwait.

Yn ôl yr awdurdodau, mae’r ddynes 23 oed wedi cyfadde’ i’r drosedd gan ddweud ei bod wedi gwneud hynny “am resymau personol”.

Yn ôl un o bapurau’r wlad yn y Dwyrain Canol, roedd hi’n protestio oherwydd bod ei chyn-ŵr wedi ei cham-drin pan oedden nhw’n briod. Roedd hi wedi tywallt petrol tros babell lle’r oedd y menywod a’r plant a’i chynnau.

Dyw hi ddim yn glir eto a fuodd y briodferch farw yn y fflamau a losgodd y babell yn ulw o fewn tri munud. Dyw chwech o’r cyrff ddim wedi cael eu hadnabod eto ac mae tua 52 o bobol eraill wedi eu cadw yn yr ysbyty.

Yn Kuwait, fe fydd y dynion a’r merched yn dathlu ar wahân ac mae’r plant yn ymuno gyda’r menywod.

Llun: Ap Photo