Fe gafodd 20 o bobol eu lladd gan hunanfomiwr yng ngweriniaeth Ingushetia yn ne Rwsia.

Dyma’r ymosodiad gwaetha’ ers misoedd yn ardal Gogledd Caucasus lle mae gwrthdaro cyson tros weriniaethau fel Chechnya y drws nesa’.

Fe gafodd 100 o bobol eu hanafu hefyd wrth i ddyn yrru lorri gyda 400 pwys o ffrwydron trwy gatiau swyddfa heddlu yn nhref Nazran.

Roedd heddlu wedi ceisio tanio at y lorri ond wedi methu â’i rhwystro ac fe gafodd nifer o adeiladau eraill yn y cyffiniau eu difrodi.

Fe gymerodd hi oriau i’r lluoedd diogelwch chwilio am gyrff ac fe anfonodd Gweinyddiaeth Argyfwng Rwsia awyren arbennig i gludo rhai o’r cleifion i ysbytai ym Moscow.

Dyw hi ddim yn glir eto pwy oedd yn gyfrifol ond mae’r bai’n debyg o gael ei roi ar wrthryfelwyr o Chechnya neu garfanau Moslemaidd