Mae’r lleidr trên, Ronnie Biggs, yn cael ei symud o’r ysbyty i gartref gofal ac, yn ôl ei gyfreithiwr, hwn fydd y symud ola’.

Fe gafodd ei ryddhau o’r carchar ychydig dros wythnos yn nôl am resymau tosturiol ac fe fydd yn symud o Ysbyty Norfolk a Norwich i gartref yn Barnet, gogledd Llundain er mwyn bod yn nes at ei fab, Michael.

Dyw Ronnie Biggs, sy’n 80 oed, ddim yn gallu cerdded erbyn hyn, ac mae angen gofal 24 awr y dydd arno. Mae wedi dioddef tair strôc, ac wedi bod yn dioddef o niwmonia.

Dywedodd ei gyfreithiwr, Giovanni Di Stefano, heddiw, fod Ronnie Biggs yn “ddifrifol wael,” a’i fod yn cael ei symud i’w “gartref olaf”.

Lladrad trên

Roedd Ronnie Biggs yn un o 15 dyn mewn gang a ddygodd £2.6 miliwn oddi ar drên post oedd yn teithio rhwng Glasgow a Llundain yn 1963.

Cafodd ei ddal a’i ddedfrydu i 30 mlynedd am ei ran yn y lladrad, ond dihangodd ar ôl 15 mis, ac fe fu ar ffo am 31 mlynedd, gan fyw mewn amryw o wledydd.

Cafodd ei garcharu ar ôl dychwelyd o’i wirfodd i Loegr yn 2001, er mwyn cael triniaeth feddygol.

Fe wrthododd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Jack Straw, â rhyddhau Ronnie Biggs ym mis Mehefin, gan ddweud nad oedd yn edifar o gwbl am ei droseddau. Gwta chwe wythnos wedyn, fe newidiodd ei feddwl gan ddweud na fyddai Biggs yn gwella o’i salwch.