Mae’r llong nwyddau Arctic Sea, sydd wedi bod ar goll ers bron dair wythnos, wedi cael ei darganfod efo’i chriw o 15 yn fyw ac iach, meddai Ysgrifennydd Amddiffyn Rwsia, Anatoly Serdyukov.

Cafodd y llong ei darganfod gan lynges Rwsia, 300 milltir o ynys Cape Verde, oddi ar arfordir Gorllewin Affrica.

Does dim eglurhad eto ynglŷn â beth ddigwyddodd i’r llong sydd wedi bod ar goll ers 28 Gorffennaf.

Mae’r dyfalu’n cynnwys amheuon fod môr ladron yn gyfrifol, neu fod y llong yn rhan o ffrae fasnachol.

Y gred yw fod y llong wedi diflannu ar ôl iddi hwylio drwy’r Sianel.

Llun: Anatoly Serduykov