Bydd 600 o swyddi ym Manceinion, sy’n gysylltiedig â gwasanaethau’r cwmni awyrennau Ryanair, yn cael eu colli ym mis Hydref eleni.

Mae Ryanair yn mynd i roi’r gorau i naw o’r 10 o’u teithiau o faes awyr Manceinion, sy’n golygu y bydd cyfanswm o 44 o deithiau – 60,000 o deithwyr y flwyddyn – yn cael eu colli yno.

Mae’r cwmni o Iwerddon, sy’n marchnata eu hunain ar sail eu teithiau honedig rad, yn beio awdurdodau’r maes awyr am y penderfyniad, oherwydd iddynt wrthod gostwng y costau y mae’n rhaid iddynt eu talu.

Yn ôl Ryanair, roeddent wedi cynnig cynyddu gwasanaeth y cwmni yn y maes awyr i 28 o deithiau yn ychwanegol bob wythnos, ar yr amod fod costau yn cael eu lleihau. Cafodd y cynnig ei wrthod.

Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Manceinion: “Dydyn ni ddim yn credu fod costau sydd cyn lleied â £3 y person yn afresymol. Yn amlwg, mae Ryanair yn credu hynny ac mae hynna’n anffodus.”

“Rydyn ni wedi parhau i leihau’n taliadau am y 15 mlynedd diwethaf, hyd yn oed wrth wynebu cynnydd mewn costau, megis costau diogelwch.”