Mae’r lleidr trên enwog, Ronnie Biggs, ar fin cael ei symud o’r ysbyty i gartref gofal.

Bydd y lleidr trên, a gafodd ei ryddhau o’r carchar ychydig dros wythnos yn ôl am resymau dyngarol, yn symud o Ysbyty Norfolk a Norwich, i gartref yn Barnet, gogledd Llundain er mwyn bod yn nes at ei fab, Michael.

Dyw Ronnie Biggs, sy’n 80 oed, ddim yn gallu cerdded erbyn hyn, ac mae angen gofal 24 awr y dydd arno. Mae wedi dioddef tair strôc, ac wedi bod yn dioddef o niwmonia.

Dywedodd ei gyfreithiwr, Giovanni Di Stefano, heddiw, fod Ronnie Biggs yn “ddifrifol wael,” ac ei fod yn cael ei symud i’w “gartref olaf.”

Lladrad enwog o’r 1960au

Roedd Ronnie Biggs yn un o 15 dyn a wnaeth ddwyn £2.6 miliwn oddi ar drên post oedd yn teithio rhwng Glasgow a Llundain yn 1963.

Cafodd ei ddal a’i ddedfrydu i 30 mlynedd am ei ran yn y lladrad, ond dihangodd ar ôl 15 mis, ac fe fu ar ffo am 31 mlynedd, gan fyw mewn amryw o wledydd.

Cafodd ei garcharu ar ôl dychwelyd o’i wirfodd i Loegr yn 2001, er mwyn cael triniaeth feddygol.

Fe wrthododd Jack Straw ryddhau Ronnie Biggs ym mis Mehefin, gan ddweud nad oedd y lleidr yn edifar o gwbl am ei droseddau.

Ond gwta chwe wythnos wedyn, caniataodd Jack Straw i Ronnie Biggs gael ei ryddhau am resymau dyngarol, gan ddweud ei bod yn annhebygol y byddai’n gwella o’i salwch.

Llun: Ronnie Biggs(PA Newswire)